Ffurflen Gais a Chofrestru am Grant Ardrethi Annomestig
  • 1
  • 2
  • 3

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio'r Grant Annomestig Cyfyngiadau Symud i helpu busnesau i oroesi canlyniadau economaidd y cyfnod atal byr cenedlaethol yng Nghymru o ganlyniad i’r Coronafeirws (COVID-19)


Diben y grant yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian ar unwaith i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfnod atal cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda chostau cadw staff lle bo hynny'n briodol. Mae’r grant yn ceisio ategu mesurau COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.


Grant 1

Mae grant o £5,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd wedi cael eu gorfodi i gau (fel y'u diffinnir gan y rheoliadau) a bodloni'r meini prawf cymhwysedd grant a nodir yn y ddogfen ganllawiau a chofrestru. Mae angen i chi ffod yn meddiannu eiddo sydd â gwerth trethadwy o rhwng £12,001 a £51,000 hefyd.


Grant 2

Mae grant o £1,000 ar gael i fusnesau sy’n gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach (SBRR) yng Nghymru sydd â gwerth trethadwy o £12,000 neu lai (gweler y dogfennau canllaw am eithriadau).


Yn dibynnu ar fodloni'r meini prawf cymhwysedd, gall ymgeiswyr Grant 2 wneud cais am y grantiau atodol canlynol hefyd.



Dim ond os ydych yn atebol am dalu ardrethi busnes i'ch awdurdod lleol y dylech lenwi'r ffurflen gais hon.


Bydd y grant yn agored i geisiadau ar 28 Hydref a bydd yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn.

ADRAN 1 – Gwybodaeth am eich busnes

Cyfeirnod Ardrethi Busnes
Mae hwn i'w weld ar eich bil ardrethi busnes ac mae'n rhif 7 digid. Peidiwch â chynnwys bwlch na chysylltnod. Os daw eich rhif i ben gyda X, peidiwch â'i gynnwys
Nid oes gennyf Rif Cyfeirnod Cyfradd Busnes
Pa un o'r grantiau canlynol ydych chi am wneud cais amdanynt?

Ticiwch y datganiad os yw'n berthnasol i'ch busnes

Roedd fy musnes wrthi'n masnachu ac yn cynhyrchu refeniw gwerthiant hyd at 6pm ar 23 Hydref 2020*
  
Enw’r busnes*
Y sector busnes / math o fusnes*

Cyfeiriad Busnes:

Rhif Cofrestru TAW (os yw’n berthnasol)
Rhif Cofrestru’r Cwmni (os yw’n berthnasol)
Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr CThEM (os yw’n berthnasol)
Dyddiad dechrau masnachu*
Nifer y gweithwyr cyflogedig Hydref 2020*
Nifer y gweithwyr cyflogedig Mawrth 2021*
Trosiant Blynyddol (cyn-Covid) neu rhagolwg trosiant os yn llai na 12m oed*