Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud i helpu busnesau i oroesi canlyniadau economaidd y cyfnod atal byr cenedlaethol yng Nghymru o ganlyniad i’r Coronafeirws (COVID-19).
Diben y grant yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian ar unwaith i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfnod atal byr cenedlaethol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda chostau cadw staff lle bo hynny'n briodol. Mae’r grant yn ceisio ategu mesurau COVID-19 eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.
Swm grant 1 - mae grant dewisol o £1,500 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi cael eu gorfodi i gau (fel y'i diffinnir gan y rheoliadau) o ganlyniad i'r cyfnod atal byr cenedlaethol
- NEU yn gallu dangos y bydd y cyfnod atal byr cenedlaethol yn arwain at ostyngiad o 80% o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw
Swm grant 2 - mae grant dewisol o £2,000 ar gael i gynorthwyo busnesau sydd:
- Wedi cael eu gorfodi i gau (fel y'i diffinnir gan y rheoliadau) o ganlyniad i'r cyfnod atal byr cenedlaethol
- NEU yn gallu dangos y bydd y cyfnod atal byr cenedlaethol yn arwain at ostyngiad o 80% o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw
- AC maent wedi bod yn destun cyfyngiadau lleol am dair wythnos neu fwy hyd at 23 Hydref ac wedi gweld gostyngiad o 50% o leiaf yn eu trosiant am y cyfnod hwnnw.
Ni allwch wneud cais am Grant 1 a Grant 2.
Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn:
- Os ydych yn gymwys i dderbyn, neu wedi derbyn, y Grant Ardrethi Annomestig Cyfyngiadau Symud gan eich Awdurdod Lleol
- Os oes gennych 50 neu fwy o weithwyr
- Os yw'r busnes yn cynhyrchu llai na 50% o'ch incwm. Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm.
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch y ddogfen Canllawiau Grant Dewisol Cyfyngiadau Symud.
Bydd y grant yn agored i geisiadau ar 28 Hydref a bydd yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu pan fydd y gronfa wedi'i hymrwymo'n llawn.
ADRAN 1 – Eich Manylion Personol
Teitl*
Enw cyntaf*
Enw cyntaf yn ofynnol
Cyfenw*
Cyfenw yn ofynnol
Rhif ffôn cyswllt*
Rhif ffôn cyswllt yn ofynnol
Cyfeiriad e-bost*
Cyfeiriad e-bost yn ofynnol
Nid ydych yn byw mewn ardal bost gymwys i fwrw ymlaen â'r cais