Busnes a’r Economi
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7

Fel rhan o Dasglu Economaidd Pen-y-bont ar Ogwr, sydd newydd gael ei sefydlu, mae’r Cyngor yn arwain Rhaglen Ymgysylltu â Busnes. Rydym yn cynnal arolwg o fusnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn asesu effaith Covid-19 ar yr economi leol a’r pryderon a’r lefel o barodrwydd ar gyfer ymadawiad y DU â’r UE.


Derbyniodd y gymuned fusnes leol lefel ddigynsail o gefnogaeth a chysylltiad ers dechrau pandemig Covid-19 gan amrywiaeth o sefydliadau gan gynnwys:



Mae ar Dasglu Economaidd Pen-y-bont ar Ogwr eisiau deall y prif broblemau y mae busnesau yn eu hwynebu yn y sefyllfa bresennol, clywed eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol a syniadau am y lefelau o gefnogaeth fydd eu hangen wrth symud ymlaen i gefnogi adferiad busnes.


Defnyddir canfyddiadau’r ymchwil hon i ddatblygu cynllun economaidd, fydd yn cynnwys camau gweithredu i gynorthwyo busnesau i addasu i’r tirlun economaidd sy’n newid, eu cefnogi yn eu hadferiad, cryfhau eu gwytnwch a sicrhau cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant, sgiliau a chyflogaeth yn ogystal â busnes newydd.


Mae’r arolwg yn edrych ar y meysydd canlynol:



Cyfrinachedd


Defnyddir y wybodaeth a roddir gennych ar y ffurflen hon i ddatblygu strategaethau i gefnogi busnesau.


Bydd y Cyngor yn cymryd pob rhagofal rhesymol i sicrhau cyfrinachedd ac i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data. Efallai y caiff eich gwybodaeth ei rhannu ag aelodau Tasglu Economaidd Pen-y-bont ar Ogwr i ddibenion creu cynllun economaidd, fydd yn cynnwys camau gweithredu i helpu busnesau i ymaddasu i'r tirlun economaidd sy’n newid, eu cefnogi yn eu hadferiad, gwella eu gwytnwch a darparu cyfleoedd newydd ar gyfer hyfforddiant, sgiliau a chyflogaeth yn ogystal â busnes newydd. Cedwir eich gwybodaeth yn unol â Pholisi Cadw Data'r Cyngor.


Mae gennych nifer o hawliau o dan ddeddfwriaeth diogelu data. Gellwch hefyd dynnu eich cydsyniad yn ôl a gofyn inni ddileu eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein gwefan neu gellwch gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data.


Os ydych yn anfodlon ar y ffordd yr ydym yn trin eich data personol, yna mae gennych y dewis o wneud cwyn i'r Swyddog Diogelu Data ac i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.