Cronfa Adferiad Diwyllianol Cymru - Cam 2 Y Gronfa i Weithwyr Llawrydd Ebrill 2021 - Medi 2021
  • 1
  • 2
  • 3

Ffurflen Gais

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cam 2 y Gronfa i Weithwyr Llawrydd er mwyn estyn y cymorth sydd ar gael i helpu gweithwyr proffesiynol llawrydd i ymdopi â chanlyniadau economaidd y coronafeirws (COVID-19). Gall y gronfa hon roi taliadau untro o £2,500 i helpu gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol sy’n parhau i wynebu heriau ariannol yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mawrth 2021 o ganlyniad i’r pandemig COVID-19. Mae’r sectorau sy’n gymwys i wneud cais am y grant hwn yn cynnwys:

Ein blaenoriaeth ar gyfer Cam 2 y Gronfa i Weithwyr Llawrydd fydd helpu’r bobl hynny mewn meysydd y mae Covid-19 yn dal i gael cryn effaith arnynt, er enghraifft, pobl yn y sector digwyddiadau, y sector cerddoriaeth a’r sector celfyddydau perfformio. Nid ar gyfer gweithwyr llawrydd sy'n gweithio ym maes ffilm a theledu, gemau fideo, meddalwedd a diwydiannau adloniant digidol eraill y bwriedir y cymorth hwn gan fod y marchnadoedd hynny bellach yn gweithredu ar eu lefelau arferol neu’n agos at y lefelau hynny. Er hynny, rydym yn deall y gallai’r sefyllfa fod yn dal i effeithio ar rai rolau penodol, gan gynnwys rhai ym maes ffilm a theledu (e.e. awduron / cerddorion). Os gellir dangos bod yr effaith hon yn ganlyniad i gyfyngiadau sy’n gysylltiedig â COVID-19, byddwn yn derbyn ceisiadau.


Os yw pobl wedi llwyddo i barhau i weithio ar yr un lefelau ag a welwyd yn y gorffennol neu’n agos at y lefelau hynny, naill ai ar ôl cael cymorth, neu hebddo, ni ddylent wneud cais.


  

Wrth gyflwyno’ch cais, cofiwch atodi'r holl ddogfennau tystiolaeth sydd eu hangen, gan gynnwys tystiolaeth adnabod, tystiolaeth o'ch cyfeiriad a chyfriflen banc.
Mae rhagor o fanylion am sut i lenwi’r ffurflen hon i’w gweld yn y ddogfen ganllawiau a’r Cwestiynau Cyffredin. Os na ddowch chi o hyd i ateb i’ch cwestiwn, gallwch anfon e-bost at FreelancerWCRF@gov.wales neu ffonio Busnes Cymru ar 03000 6 030000.

Adran 1 – Eich manylion personol

Teitl*
Enw Cyntaf*
Cyfenw*
*
Rhif ffôn cyswllt*
Cyfeiriad e-bost*
Oedran*
Ydych yn eich ystyried eich hun yn anabl?*
Ydych yn eich ystyried eich hun yn*
Ydych yn ystyried eich bod o gefndir du neu leiafrif ethnig?*
Ydych yn siarad Cymraeg?*