Cais y Gronfa Cadernid Economaidd
Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pecyn pellach o gymorth busnes ar gael drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd (ERF). Bydd y Gronfa'n darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi gweld effeithiau negyddol sylweddol oherwydd cyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021.
Yn benodol, bydd y Gronfa'n cefnogi busnesau sydd naill ai:
- Wedi gorfod aros ar gau neu’n methu â masnachu oherwydd y cyfyngiadau parhaus rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Awst 2021
- Yn Ofod Digwyddiadau unigriw ac atyniadau wedi’u heffeithio'n ddifrifol gan reoliadau ymbellhau cymdeithasol parhaus
- Busnesau eraill sydd ag >60% o effaith ar drosiant o ganlyniad uniongyrchol i gyfyngiadau parhaus ers 1 Mai ac nad oeddent yn gallu agor dan do cyn 17 Mai
- Busnes cadwyn gyflenwi sy'n cynhyrchu 60% neu fwy o'i refeniw gwerthu gan fusnesau sy'n perthyn i gategorïau a), b) a/neu c)
AC (yn berthnasol i bawb):
Wedi cael eu heffeithio yn negyddol sylweddol drwy lai o drosiant o 60% neu fwy ym mis Gorffennaf ac Awst 2021 o'i gymharu â mis Gorffennaf a mis Awst 2019 a achoswyd yn uniongyrchol gan gyfyngiadau parhaus COVID-19.
Bydd y broses ymgeisio yn dechrau yn yr wythnos sy’n cychwyn ar 26 Gorfennaf 2021 ac yn aros ar agor am 2 wythnos.
Nid ydych yn gymwys i gael y grant hwn os:
- Yw’r busnes yn cynhyrchu llai na 50% o'ch incwm os ydych chi'n unig fasnachwr neu’n bartneriaeth. Rhaid mai'r busnes yw eich prif ffynhonnell incwm.
- Nad yw eich trosiant wedi gostwng o leiaf 60% o'i gymharu â'r cyfnod Mai / Mehefin yn 2019 neu gyfnod masnachu cyfatebol os sefydlwyd y busnes ar ôl y dyddiad hwnnw
- Ydych chi'n gymwys am gymorth gan y Gronfa Adferiad Diwylliannol - Cymorth i Weithwyr Llawrydd (a lansiwyd ar 17 Mai 2021).
- Ydych chi wedi derbyn cyllid tuag at gostau ar gyfer yr un cyfnod o gronfeydd fel "Cronfa Cymru Egnïol" neu'r "Gronfa Cadernid Cymunedau”.
- Yw cyfanswm y grantiau cymorth Covid-19 a gawsoch (gan gynnwys unrhyw ddyfarniad pellach drwy'r gronfa ddewisol hon) yn fwy nag 80% o'ch trosiant ar gyfer blwyddyn fasnachu nodweddiadol (cyn Covid-19 neu yr amcangyfrifwyd heb effaith Covid-19 os sefydlwyd eich busnes ar ôl Mawrth 2019).
I gael rhagor o wybodaeth am y grant hwn darllenwch y ddogfen Canllawiau'r Gronfa Cadernid Economaidd.
Gweinyddir y Gronfa mewn dwy ran; bydd cymorth i fusnesau â throsiant uwch na £85,000 yn cael ei ddarparu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru; bydd cymorth i fusnesau sydd â throsiant o lai na £85,000 yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol. Dylai lefelau trosiant fod ar gyfer blwyddyn fasnachu arferol neu amcangyfrif os sefydlwyd y busnes ar ôl mis Mawrth 2020. Dylai busnesau â throsiant o dros £85,000 fynd i https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/cy .
ADRAN 1 – Eich manylion personol
Teitl*
Teitl is required
Enw cyntaf*
Enw cyntaf is required
Enw cyntaf is required
Invalid characters: < > in Enw cyntaf.
Cyfenw*
Cyfenw is required
Cyfenw is required
Invalid characters: < > in Cyfenw.
Rhif ffôn cyswllt*
Rhif ffôn cyswllt is required
Rhif ffôn cyswllt is required
Invalid characters: < > in Rhif ffôn cyswllt.
Cyfeiriad e-bost*
Cyfeiriad e-bost is required
Cyfeiriad e-bost is required
Cyfeiriad e-bost is not valid
Invalid characters: < > in Cyfeiriad e-bost.