Ffurflen Gais Cronfa Cychwyn Busnes
Grant Cychwyn Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Dyma gynllun grant hyblyg a ddarperir trwy bartneriaeth gyda UK Steel Enterprise a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n darparu cymorth ariannol i ficrofusnesau newydd neu bresennol sydd wedi'u lleoli, neu'n bwriadu lleoli, ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae microfusnes yn un sydd â llai na deg cyflogai a chyfanswm trosiant neu fantolen o lai na €2 filiwn.
Pwy all ymgeisio? - Gellir ystyried busnesau sydd newydd gychwyn a busnesau yn eu tair blynedd gyntaf o fasnachu. Rhaid i'r busnes fod wedi'i leoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Efallai y byddwn yn ceisio ad-daliad os bydd y busnes yn symud i ffwrdd o'r ardal cyn pen blwyddyn ar ôl derbyn cyllid.
Pwy all ddim ymgeisio? Y rhai nad ydynt yn gymwys i ymgeisio yw:
- sefydliadau neu grwpiau nad ydynt yn ymgymryd â gweithgareddau masnachu
- grwpiau gwleidyddol neu grefyddol
- clybiau a chymdeithasau
- sefydliadau gwirfoddol
- y rhai sy'n derbyn arian uwchlaw trothwyon cymorth gwladwriaethol
Beth ellir ei ariannu a faint allwch chi wneud cais amdano?
Gallai costau cymwys gynnwys:
- offer cyfalaf
- offer cyfrifiadurol
- datblygu gwefannau
- gwaith adeiladu i adeiladau busnes
Yr hyn na allwn ei ariannu
Mae yna rai costau na all y cynllun eu hariannu, fel:
- Unrhyw gostau a gododd cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol
- TAW neu unrhyw drethi eraill
- Cerbydau
- Costau cyfreithiol/Gwaith yn cael ei wneud fel gofyniad statudol
- Aelodaeth o Gyrff Proffesiynol
- Ail-ariannu dyledion drwg o unrhyw fath, neu rwymedigaethau’r cwmni nad ydynt yn gysylltiedig â'r prosiect
- Costau hyfforddi
- Costau ceisiadau cynllunio
- Yswiriant, cyflogau neu orbenion busnes gan gynnwys cyflogau a chostau staff eraill
- Paratoi cynlluniau ac astudiaethau, e.e. Cynlluniau Busnes/Astudiaethau Dichonoldeb
- Stoc neu eitemau na ellir eu hailddefnyddio
- Gwaith a wneir ar eiddo domestig, naill ai adeilad newydd neu adnewyddiad neu estyniadau/ystafelloedd gardd/cabanau pren
Gall y grant ddarparu hyd at 50% o gostau cymwys prosiect. Y grant lleiaf y gellir ei gael £250 a'r grant mwyaf sydd ar gael yw £4,000 felly uchafswm cost y prosiect yw £8000. Dyfernir y grant ar sail y cyntaf i'r felin, ond rhaid i bob ffurflen gydymffurfio a chynnwys y wybodaeth berthnasol; bydd yn rhaid lanlwytho peth o’r wybodaeth honno.
Sylwer mai dim ond uchafswm o bum eitem y byddwn yn eu hystyried fesul cais.
SUT I YMGEISIO
Mae’r broses ymgeisio ar agor nawr a bydd yn cau ar 23 Mai 2022 neu'n gynt os dyrennir yr arian.
Byddwn yn gweithredu ar sail y cyntaf i'r felin, a byddwn ond yn prosesu ffurflenni cais sy'n cydymffurfio ac sydd â'r dystiolaeth ofynnol ategol wedi'i lanlwytho fel y nodir isod.
I gyrchu ffurflen gais, cwblhewch y gwiriwr cymhwysedd isod.
Byddwn yn eich hysbysu ar neu cyn 20 Mehefin 2022 os yw'ch cais yn llwyddiannus. Bydd angen i chi dderbyn y cyllid a byddwn yn disgwyl eich hawliad ariannol cyntaf erbyn 15 Awst 2022 a phob hawliad fod wedi'i gwblhau'n llawn erbyn 26 Medi 2022. Os nad yw'n gyflawn, rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r cynnig cyllid yn ôl.
Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno ffurflen gais ar-lein a chynllun busnes gyda rhagolwg llif arian 12 mis. Gellir cyrchu’r templed llif arian a’r cynllun busnes yma ac yma ac maent hefyd wedi’u hymgorffori yn y ffurflen ar-lein.
Mae angen dau ddyfynbris y gellid eu cymharu hefyd ar gyfer pob eitem gyfalaf sy'n ofynnol. Bydd angen i chi lanlwytho'r rhain ar eich ffurflen gais.
Bydd angen i chi hefyd lanlwytho’ch cyfriflen banc ac anfon diweddariadau atom os bydd eich prosiect yn mynd yn ei flaen.
Bydd angen i chi hefyd lanlwytho prawf hunaniaeth a phrawf cyfeiriad.
Rhaid i'r busnes geisio darparu cyflogaeth i'r Ymgeisydd am o leiaf 30 awr yr wythnos a dylai ddarparu'ch prif fath o incwm. Ni all y grant gefnogi datblygiad hobi neu ddifyrrwch.
Mae help a chyngor ar lunio cynllun busnes ar gael gan Busnes Cymru – ffôn 03000 6 03000, gwefan https://businesswales.gov.wales/starting-up/
TAFLENNI FFEITHIAU CYCHWYN BUSNES
Gallwch gael taflenni ffeithiau cychwyn busnes ar wahanol fathau o weithgareddau busnes trwy wefan Busnes Cymru, neu gysylltu â'r llinell gymorth ar 03000 6 03000.
https://businesswales.gov.wales/business-startup-factsheet
Ni ddylid ysgwyddo unrhyw wariant cyn i grant gael ei gymeradwyo, gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol. O dan amgylchiadau arferol dim ond un cais am gyllid y byddwn yn ei gefnogi o dan y Gronfa Cychwyn Busnes.
NI ddylai cyfarwyddwr/cyfarwyddwyr busnes y busnes feddu ar fuddiant/cyfranddaliad yn unrhyw un o'r cwmnïau sy'n cyflenwi dyfynbrisiau/amcangyfrifon ar gyfer y cais am grant. Rhaid i'r Ymgeisydd dderbyn telerau ac amodau'r grant trwy gwblhau a dychwelyd y Dystysgrif Derbyn y byddwn yn ei rhoi os bydd eich cais am grant yn llwyddiannus. Peidiwch â bwrw ymlaen â'ch prosiect nes eich bod wedi dychwelyd y Dystysgrif Derbyn.
Pe na bai'r prosiect yn symud ymlaen o fewn y cyfnod a nodir yn y llythyr cynnig, byddai'r grant yn dod i ben yn awtomatig
NI fydd eitemau a brynir trwy gerdyn credyd/hurbwrcasu/cytundebau credyd estynedig/prydlesi cyllid ac arian parod yn cael eu hystyried ar gyfer cyllid grant. Mae angen gwneud pob pryniant o'r CYFRIF BANC a restrir ar y ffurflen gais y mae'n rhaid iddo fod yn enw'r busnes neu'r ymgeisydd.
Pe bai'r cais yn llwyddiannus, telir yr arian grant yn uniongyrchol i GYFRIF BANC yr ymgeisydd neu'r busnes ar ôl derbyn anfonebau a gweld datganiadau banc i gadarnhau taliad a monitro boddhaol.
Ni fydd grant yn cael ei gynnig na'i dalu os yw'r Busnes neu'r Ymgeisydd mewn ôl-ddyledion mewn perthynas ag unrhyw daliad i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gwneir gwiriadau yn ôl yr angen, i'w penderfynu gan eich swyddog prosiect.
Ydych chi wedi dechrau masnachu eto?*
Ydych chi wedi dechrau masnachu eto? is required
Gwiriwr Cymhwysedd
I wirio'ch cymhwysedd ar gyfer y Grant Cychwyn Busnes, atebwch y cwestiynau canlynol
1. A yw'ch busnes wedi'i leoli neu'n bwriadu lleoli yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont?*
I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, rhaid i'ch busnes fod wedi'i leoli neu'n bwriadu lleoli yn ardal Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
2. A yw'ch busnes yn newydd neu yn ei 3 blynedd gyntaf o fasnachu?*
I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, rhaid i'ch busnes fod yn newydd neu yn ystod y 3 blynedd gyntaf o fasnachu
3. A ydych chi'n deall y bydd gofyn i chi ddarparu hyd at 50% o arian cyfatebol a bod yr arian grant yn cael ei dalu i'r Ymgeisydd ar ôl i'r pryniannau gael eu gwneud ac ar ôl derbyn anfoneb a datganiadau banc i gadarnhau taliad?*
I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, mae'n ofynnol i chi ddarparu hyd at 50% o arian cyfatebol a dim ond ar ôl i'r pryniannau gael eu gwneud ac ar ôl derbyn anfoneb a datganiadau banc y bydd yr arian grant yn cael ei dalu i'r ymgeisydd
4. A allwch gadarnhau nad ydych wedi mynd y tu hwnt i'r nenfwd cymorth gwladwriaethol cyfredol o €200,000 ar gyfer yr holl gymorth de minimis a ddarperir i unrhyw un sefydliad dros gyfnod o dair blynedd ariannol?*
I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, ni all eich busnes fod wedi mynd y tu hwnt i'r nenfwd cymorth gwladwriaethol cyfredol o € 200,000 dros gyfnod cyllidol tair blynedd
5. Gallaf gadarnhau, os cynigir grant i mi, y gellir cwblhau fy mhrosiect erbyn 29 Ebrill 2022.*
I fod yn gymwys ar gyfer y grant hwn, rhaid i'ch prosiect gael ei gwblhau erbyn 26 Medi 2022
Ariennir y prosiect hwn yn rhannol gan UK Steel Enterprise. Mae UK Steel Enterprise (UKSE) yn is-gwmni dan berchnogaeth lwyr Tata Steel sydd â'r cyfrifoldeb o helpu adfywiad economaidd cymunedau y mae newidiadau yn y diwydiant dur yn effeithio arnynt. Mae UKSE yn gweithio mewn ardaloedd dur ledled y DU yn cynorthwyo i greu swyddi a chyfoeth trwy gefnogi busnesau bach a chanolig gyda chyllid ac adeiladau. Mae dyfarnu'r grant yn hollol yn ôl disgresiwn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.